Am
Ymunwch â Theatr Dylan Thomas ar gyfer 'The Trial of Ebenezer Scrooge' fis Rhagfyr hwn.
Treial y ganrif!
Flwyddyn ar ôl ei drawsnewidiad gwyrthiol, mae Ebenezer Scrooge wedi dychwelyd i'w hen ffyrdd ac mae'n erlyn Jacob Marley ac ysbrydion Nadolig y Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol am dorri i mewn i'w dŷ, herwgipio, athrod, poen a dioddefaint, ymgais i lofruddio a pheri gofid emosiynol yn fwriadol.Mae'r ysbrydion yn cyflogi bargyfreithiwr mwyaf carismatig, craff a chlyfar Lloegr. Mae Scrooge, yr hen gybydd, yn cynrychioli ei hun. Fesul un, mae Bob Cratchit, nai Scrooge sef Fred, a'r ysbrydion eu hunain yn mynd i'r blwch tystion i roi eu tystiolaeth. Mae'r hyn sy'n dilyn yn gomedi ragorol wrth i'r ysbrydion gael eu dyfarnu'n euog yn y pendraw, a gorfod talu £40,000 yr un i Scrooge!
Beth sy'n digwydd nesaf? A yw'r Nadolig wedi'i ganslo? A fydd yr ysbrydion fyth yn ymddangos eto?
I gael gwybod yr atebion, mae'n rhaid i chi ddod i weld y ddrama gomedi hynod ddoniol hon a fydd yn gwneud i chi ailfeddwl stori gyfan Scrooge.
SYLWER, ni chaiff tocynnau eu postio atoch - rhaid eu casglu yn y theatr.
Comedi gan Mark Brown