Am
Mae Illyria yn cyflwyno The Wind in the Willows yn Theatr Awyr Agored Abertawe yng Nghastell Ystumllwynarth ddydd Iau 14 Awst am 2pm.
Ynghylch y sioe:
Mae'r twrch daear yn ysu i archwilio'r byd ehangach. Mae'r mochyn daear yn mwynhau llonydd. Mae'r llygoden fawr yn hoffi chwarae mewn cychod. Mae eu bywydau delfrydol ar lan yr afon yn cael eu gweddnewid ar ôl i'r llyffant ddatgelu ei obsesiwn diweddaraf: car modur! Mae theatr arobryn Illyria yn dathlu stori glasurol Kenneth Grahame yn yr awyr agored.
Bydd ein castell hanesyddol yn cynnig cefndir nodedig ar gyfer perfformiad theatr Illyria o The Wind in the Willows ym mis Awst. Mae'r sioe'n siŵr o fod yn brofiad gwirioneddol unigryw a bythgofiadwy.
Tocynnau
Oedolyn – £16.80
Consesiwn – £14.70
PTL – £8.40
Teulu – £46.20 (2 oedolyn a 3 blentyn)
Gwybodaeth am docynnau: Ar gyfer teulu o bum person (dau docyn llawn a thri thocyn consesiynol), rhoddir gostyngiad awtomatig ar waith i'r pris i deulu wrth i chi dalu. Pob tocyn yn amodol ar ffi archebu o 5%.
Llogi cadair: £2.50 gyda £1 yn ôl neu dewch â'ch cadeiriau.