Am
Ymunwch â Theo Tennant, ffilmiwr a chyfarwyddwr arobryn, ar gyfer y dangosiad cyntaf yn Abertawe o'r ffilm ddogfen Frontier Town, a ddilynir gan sgwrs â Ffilm Cymru.
Frontier Town: Dywedwyd wrth breswylwyr Fairbourne y byddai eu pentref yn cael ei ddigomisiynu a'i adael i'r môr erbyn 2054. Wrth i wyddonwyr brofi amddiffynfeydd arfordirol mewn labordy, mae pentrefwyr ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd yn wynebu dyfodol ansicr. Dyma stori am y bobl a enwyd yn ffoaduriaid hinsawdd cyntaf y DU.
Fe'i dewiswyd ar gyfer gŵyl ffilmiau byr Aesthetica 2023, lle dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf erioed, ac ar gyfer gŵyl Big Sky 2023.
Ffilmiwr a chyfarwyddwr yn y DU yw Theo. Mae ef a'i frawd yn creu ffilmiau dogfen. Yn 2024, enwebwyd eu ffilm Frontier Town ar gyfer dwy wobr BAFTA Cymru, ac enillodd Theo y wobr ar gyfer Ffotograffiaeth Ffeithiol Orau.
Mae eu ffilm ddogfen fer newydd, Other Life, sy'n dilyn dau ymchwilydd UFO yn Abertawe a'r cyffiniau, ar fin cael ei dangos am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau a'r DU ym mis Tachwedd yn ystod gwyliau lle bydd y ffilmiau buddugol yn gymwys ar gyfer gwobrau’r Academi (sef yr Oscars) a BAFTA.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe fel rhan o’r prosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe.
(Iaith Arwyddion Prydain a chymorth clywed)
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.