Am

Paratowch at y pantomeim i oedolion mwyaf doniol, digywilydd a drygionus rydych chi bob amser wedi dymuno'i weld. Dyma'ch cyfle chi i gael hwyl ... gadewch y plant gartref gan nad yw'r sioe hon yn addas ar eu cyfer!

Tinderella yw'r panto i oedolion mwyaf gwarthus i ymddangos ar lwyfan ac, wrth gwrs, mae ychydig yn wahanol i'r stori dylwyth teg glasurol! Fe'ch gwahoddir i noson o chwerthin aflafar, ensyniadau a datganiadau digywilydd a chyfarfyddiadau annisgwyl a fydd yn gwneud i chi grefu am fwy!

Mae Tinderella yn athrylith ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ddylanwadwraig go iawn, ond ffugesgus yw'r cyfan gan nad oes gan Tinders druan unrhyw arian, does ganddi ddim dyn ac mae'r bywyd hudolus y mae'n honni ei bod yn byw yn un cwbwl ffug.

Nes ei bod, un diwrnod, yn cwrdd â nid un ond dau dywysog yn y goedwig....

A fydd hyn yn arwain at ddiweddglo hapus neu a fydd hi'n colli mwy na'i hesgid?

Byddwch yn awchu am fwy yn y panto hynod ddoniol hwn gan brif gynhyrchydd pantomeimiau i oedolion y DU.

Gallwch ddisgwyl anthemau di-chwaeth, miri masweddus, dwli digrif a digon o gyfleoedd i gymryd rhan fel cynulleidfa.

Gadewch y plant gartref a chydiwch yn eich esgidiau gwydr i fwynhau Tinderella!

RHYBUDDION:

-   Efallai nad yw'n wleidyddol gywir

-   Sicrheir diweddglo hapus