Am
Gall unrhyw un sy’n teimlo ei fod yn gallu cystadlu gofrestru ar gyfer Treiathlon Abertawe. Caiff y rasys eu gwahanu ar sail rhyw, felly mae dynion a menywod yn cystadlu dros y wobr gyntaf yn eu categori priodol. Bydd angen i athletwyr ag anabledd cofrestredig gysylltu â swyddfa’r ras i drafod p’un a yw’n addas ac yn ddiogel iddynt gofrestru ar gyfer y ras. Mae gennym hefyd ddigwyddiad ‘Swansea Swim’ y diwrnod cyn y treiathlon a ras 5k Abertawe yn ystod y digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i’r wefan yn www.swanseatriathlon.com
CAU FFORDD DROS DRO
Caiff rhannau o'r ffyrdd canlynol eu cau er mwyn caniatáu i gyfranogwyr deithio'n ddiogel yn ystod digwyddiad Treiathlon Abertawe ar y dyddiadau a'r amserau a nodir (neu pan fo'r cystadleuwr olaf wedi cyrraedd y man, os yw'n gynt).
Eleni, bydd Treiathlon Abertawe yn dechrau yn hwyr y prynhawn, gyda ffyrdd yn cael eu cau o 4.00pm. Mae'r man troi i feiciau wedi cael ei symud i'r gorllewin tuag at yr LC, gan olygu na fydd cyfyngiadau ar East Burrows Road a Cambrian Place Cynhelir mynediad i’r Marina drwy fan croesi dynodedig ger y Ganolfan Ddinesig lle caniateir i gerbydau basio pan fydd bylchau yn y rhan feicio o'r ras
Rhan A, 25 Mai 2025 rhwng 16:00 a 20:00
- Yr A4067 Quay Parade o'i chyffordd â Somerset Place am bellter o 180m i gyfeiriad y gogledd.
- Yr A4067, Victoria Road am ei hyd cyfan.
- Yr A4067, Oystermouth Road am ei hyd cyfan.
- Yr A4067, Mumbles Road o'r man lle y mae'n ymgyfuno â'r A4067, Oystermouth Road i'w chyffordd â'r A4216, Sketty Lane.
- Dunvant Place o'i chyffordd â'r A4067, Oystermouth Road am bellter o 90m i gyfeiriad deheuol i'w chyffordd â ffordd nas enwir.
- Ffordd y Gorllewin o'i chyffordd â'r A4067, Oystermouth Road i'w chyffordd â Clarence Terrace.
- Burrows Place o'i chyffordd â'r A4067 Victoria Road i'w chyffordd ag Adelaide Street.
ATAL LÔN FYSUS DROS DRO
Diben atal y lôn fysus ganlynol yw caniatáu i gyfranogwyr deithio'n ddiogel yn ystod digwyddiad Treiathlon Abertawe ar y dyddiadau a'r amser a nodir (neu pan fo'r cystadleuwr olaf wedi cyrraedd y man, os yw'n gynt).
Rhan A, 25 Mai 2025 rhwng 16:00 a 19:30
- Yr A4067, Oystermouth Road o'i chyffordd ag Albert Row i'w chyffordd â Princess Way.
- Oystermouth Road (Metro) o'i chyffordd â'r A4067 Oystermouth Road i'w chyffordd â Dunvant Place.
- West Way (Metro) o'i chyffordd â'r A4067, Oystermouth Road i'w chyffordd â Clarence Terrace.