Am

Mae'r arddangosfa yma yn benllawn project celf cyfrwng cymysg ble gwahoddwyd aelodau o'r gymuned i ymgysylltu a threftadaeth ddiwydiannol Abertawe mewn ffordd artistig ac unigryw.

Dan arweiniad yr artist cymunedol Rachel Halstead ac ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, roedd y project yn archwilio'r cysylltiad rhwng treftadaeth ddiwydiannol ac arferion creadigol.

Roedd y project yn canolbwyntio ar sawl thema allweddol: Abertawe a chop, glo, safleoedd diwydiannol, metalau, rhwydweithiau, cymunedau, pobl a bywyd bob dydd.