Am

Pawb ar y Trên Bwganod

Ewch ar Drên Bach Bae Abertawe am daith iasol ar hyd y promenâd hyfryd y Calan Gaeaf hwn. Bydd y trên bach poblogaidd yn cael ei drawsnewid ar gyfer ei deithiau arswydus arbennig ar hyd y prom yn ystod hanner tymor mis Hydref. Beth am wisgo i fyny yn eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau i ychwanegu at yr awyrgylch arswydus?

Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif "Goroesais Drên Bach Bwganod Calan Gaeaf 2026" i gofio’i antur fwganllyd.

Ydych chi'n chwilio am brofiad Calan Gaeaf tawelach? Mae'r ymadawiadau golau dydd rhwng 2.30pm a 3.30pm yn llai brawychus ac yn ddelfrydol ar gyfer plant iau a'r rhai y mae'n well ganddyn nhw brofiad tawelach, llai dwys.

 

Hygyrchedd

Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch outdoorattractions@abertawe.gov.uk

 

Prisiau

£8.50, rhaid archebu ymlaen llaw.

1 oed ac iau (ar arffed oedolyn) am ddim. 

2+ oed (mewn sedd) pris llawn

Rhaid archebu ymlaen llaw.

Amserlen

Dydd Llun 26 i Dydd Sadwrn 31 Hydref. Gadael a dycnwelyd o Lido Blackpill

  • 2.30pm 
  • 3.00pm
  • 4.40pm
  • 5.30pm
  • 6.30pm
  • 7.30pm

Bydd pob taith yn para tua 45 munud.