Am

Gyda'i fand T. Rex, Marc Bolan oedd un o sêr mwyaf lliwgar a charismatig yr oes roc-glam wreiddiol.  Gyda chaneuon unigryw Bolan, cafodd y band lawer o ganeuon hynod lwyddiannus drwy gydol y 1970au, gan gynnwys Get it On, Telegram Sam, Jeepster a 20th Century Boy.

Un o ganeuon mwyaf poblogaidd y band oedd I Love to Boogie, a ryddhawyd ym 1976.

Eleni bydd T.Rextasy yn dathlu pen-blwydd y gân eiconig hon, a fydd bob amser yn cael ei chysylltu â'r sioe gerdd o'r West End Billy Elliot, yn 50 oed.

Mae T.Rextasy wedi bod yn perfformio ym mhedwar ban byd ers dros 20 mlynedd a hynny, yn eironig, yn yrfa sy'n hwy na gyrfa T.Rex ei hun.  Dyma'r unig fand teyrnged byw swyddogol yn y byd i Marc Bolan a T Rex, a'r unig fand a gymeradwyir gan deulu Marc Bolan, ei ystâd, aelodau gwreiddiol T Rex a rheolwyr catalog Bolan.  Disgrifiwyd y band gan lawer fel 'y tu hwnt i ffiniau teyrnged'.

Cyngerdd roc a rôl i bawb o bob oed. Os hoffech wybod sut beth yn union oedd cyngherddau Marc Bolan yn y 1970au, dyma'r sioe i chi!