Am

Mae 25 mlynedd wedi bod ers i Trigger Happy TV  gyrraedd ein sgriniau gan drawsnewid fformat y camera cudd gyda'i ddetholiad swrrealaidd o gymeriadau a chastiau bythgofiadwy. Nawr, i ddathlu chwarter canrif o anhrefn, maeDom Joly yn cyflwyno'i gymeriadau a'i bortreadau enwocaf ar y llwyfan yn ystod ei sioe Trigger Happy TV Live! Taith Dathlu 25 Mlynedd.

Bydd cynulleidfaoedd yn ail-fyw atgofion poblogaidd o'r sioe fel y falwoden enfawr, y warden traffig, y morys-ddawnsiwr, y sgowt, grŵp o wiwerod a'r ffôn symudol anferth. Bydd Dom yn rhannu straeon o'r tu ôl i'r llenni a mewnwelediadau ar sut y daeth yr eiliadau bythgofiadwy hyn yn fyw. Ond bydd rhagor o bethau annisgwyl yn sicr... Theatr fyw yw hon a dylai cynulleidfaoedd ddisgwyl yr annisgwyl.   

Cyrraedd erbyn 5.45pm

Dechrau am 6pm

Gorffen am 6.45pm