Am
Dydd Sul, 18 Mehefin 2023, 8pm
Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn cyflwyno HHH, sef band llawn sêr gydag adran gyrn a'r lleisydd Kedma Macias.
-
Kedma Macias – Llais
-
Mo Pleasure – Allweddell
-
Paul Beavis – Drymiau
-
Pat Davey – Gitâr bas
-
Harry Greene – Gitâr
-
Nick Mead – Trwmped
-
Jacob Shaw – Sacsoffon
-
Patrick Hayes – Trombôn
Mae Triple H Horns, a sefydlwyd yn 2016, wedi perfformio a recordio cerddoriaeth ar draws y byd gyda rhai o sêr mwyaf y byd, gan gynnwys Chaka Khan, Christine Aguilera, Davido, Hamish Stuart a'r cyfansoddwr cerddoriaeth ffilmiau Tyler Bates.
Dônt â noson gyffrous o gerddoriaeth gan Chaka Khan, Earth Wind and Fire ac Average White Band ymysg eraill i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, gyda sain y cyrn yn flaenllaw, a byddant yng nghwmni band o sêr sy'n cynnwys Mo Pleasure.
Mae Morris "Mo" Pleasure, sef un o aml-offerynwyr gorau ei genhedlaeth, wedi bod yn flaenllaw ym maes cerddoriaeth boblogaidd Americanaidd dros y tri degawd diwethaf. Dechreuodd Mo ei yrfa broffesiynol yn perfformio gyda Ray Charles cyn iddo symud ymlaen i weithio gyda phobl fel George Duke, Christina Aguilera, Chaka Khan, Mary J Blige, Natalie Cole a David Foster. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cerddorol ar gyfer y seren eiconig, Bette Midler.
Ym 1993, daeth Mo yn aelod ac yn Gyfarwyddwr Cerddorol ar gyfer y grŵp enwog Earth Wind and Fire, ac roedd yn rhan o daith "All For You" Janet Jackson yn 2001 (yn canu'r allweddell, y trwmped a'r gitâr. Yn 2009, gan ei fod wedi canu'r allweddell ar gyfer taith mawr ddisgwyliedig "This Is It" Michael Jackson, perfformiodd yng nghyngerdd goffa seren y byd pop yn Los Angeles. Ynghyd â gweddill ei fand ar gyfer "This Is It", mae Mo wedi'i anfarwoli yn y ffilm â’r teitl epynomaidd, sef y ffilm ddogfen gerddorol fwyaf poblogaidd erioed.
Rhyddhawyd cerddoriaeth gyntaf Mo fel artist unigol sef Elements of Pleasure yn 2006 ac fe’i canmolwyd yn fawr gan y beirniaid. Yn sgîl rhyddhau’r albwm hwn, ehangodd nifer ei gefnogwyr ar draws y byd gan ei sefydlu fel cynhyrchydd ac aml-offerynnwr a chanddo ddawn ddi-hafal am gyfuno elfennau sydd i bob golwg yn go wahanol i greu darnau cerddoriaeth cydlynol. Roedd ei ail ymdrech gerddorol unigol hirddisgwyliedig, Mo's Elements of Pleasure yn waith llawer mwy personol sy'n dwyn ysbrydoliaeth o brofiadau personol ar draws y byd ac mae'n cynnwys pobl fel Roberta Flack, Ali Woodson a Philip Bailey.
Bydd y gantores ragorol Kedma Macias yn canu gyda'r band. Mae Kedma, o Aberystwyth, eisoes yn achub ar gyfleoedd i ymddangos ar lwyfan, ac mae wedi cael cryn gymeradwyaeth a chanmoliaeth fel artist unigol a chantores sesiwn. Mae wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant fel Jermaine Jackson, Bebe Rexha, Alfie Boe, Michael Ball, Diana Ross, Ant & Dec, Gareth Malone a Peter Andre. Yn fwyaf diweddar, roedd Kedma ymhlith grŵp dethol o gantorion a ddewiswyd i berfformio ar y cyd â'r artist sydd wedi ennill sawl gwobr Grammy, Ariana Grande, ar gyfer ei pherfformiad un awr arbennig diweddar a ddarlledwyd gan y BBC. Mae’n debyg bod Kedma yn fwyaf adnabyddus am ei pherfformiad o Somebody to Love gan Queen ar Pitch Battle BBC One gyda'r côr o Gymru, Sgarmes, a berodd i’r beirniaid godi ar eu traed i’w chymeradwyo ac i Gareth Malone sefyll ar ei ddesg!
Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Chlwb Jazz Abertawe.
Archebwch ar gyfer pob un o’r 11 sioe â thocynnau am bris untro o £165 gyda’n gostyngiad VIP amleitem - 01792 475715.
Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%