Am

Taith gerddorol llawn hwyl drwy gyffro'r 60au.

Bydd cast llawn sêr o'r West End yn cyflwyno sioe gerdd wefreiddiol a fydd yn dechrau gyda ffrwydrad cerddoriaeth boblogaidd o Brydain ym 1962 ac yn gorffen ag oes blodau a chariad rhydd y 60au hwyr.

Gwahoddir pobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth i hel atgofion am gyfnod lle roedd sgertiau'n fyrrach a gwallt yn hirach wrth i gast anhygoel adfywio caneuon The Beatles, Herman's Hermits, Gerry and the Pacemakers, The Rolling Stones, Cilla Black, Manfred Mann, Dusty Springfield, Lulu, Sandy Shaw a llawer mwy.

Bydd y perfformiadau gwych a'r gwisgoedd hardd yn dwyn i gof olygfeydd a seiniau'r 60au chwedlonol. Bydd 40 o ganeuon gwych, gan gynnwys She Loves You, Glad All Over, You're My World, Jumpin' Jack Flash, Something Tells Me I'm Into Something Good, Shout, Ferry Cross The Mersey a llawer mwy.

Os yw'n wir bod cofio'r chwedegau yn golygu nad oeddech yno, mae Twist and Shout yn rhoi cyfle i chi ddarganfod yr hyn y gwnaethoch ei golli!

Bydd y sioe hon yn eich ysgogi i godi i'ch traed a dawnsio'n afreolus!