Am

Dyma'r perfformiad cyntaf erioed o ddwy ddrama fer (As a Man Grows Colder a The Modesty Men) gan yr awdur o Gymru, Rhys Hughes, a gyfarwyddir gan Volcano ac a berfformir gan ddau actor dawnus o Gymru.

Mae Rhys Hughes yn ysgrifennwr ffuglen ddamcaniaethol amryddawn, uchel ei barch, sy'n cael ei adnabod yn bennaf am ei nofelau a'i straeon byrion. Yn y perfformiad cyntaf erioed hwn, mae Volcano yn cyflwyno dwy o'i ddramâu byrion a ysgrifennwyd yn 2019 a 2020. Maent yn weithiau manwl, craff a sylwadol sy'n defnyddio hiwmor absẃrd i'n hatgoffa bod bywyd yn parhau’n anesboniadwy a'i bod yn well peidio ag ymddiried yn y rheini sy'n honni bod ganddynt yr atebion.

Mae Volcano yn gwmni cynhyrchu theatr annibynnol sydd hefyd yn cynnal canolfan gelfyddydau amrywiol yng nghanol y ddinas mewn adeilad mawr a fu gynt yn archfarchnad yn Stryd Fawr Abertawe. Mae'r cwmni'n cynhyrchu gwaith gwreiddiol, arloesol ac addasiadau arbennig. Ei nod yw bod yn gyfrwng radical yn Abertawe i ysgogi diwylliant hyderus, iach a chreadigol yng Nghymru.

As a Man Grows Colder
Mae glanhawr a phrif swyddog gweithredol cwmni'n trafod gwaith, y tywydd ac ystyr bywyd. Ymosodiad deifiol o ddoniol ar waith, rhaniad llafur a chwymp yr ecosystem sydd ar ddod.

The Modesty Men
Mae dyn yn cerdded i mewn i far ac yn honni ei fod wedi gwneud llawer o bethau da yn ei fywyd. Mae rhywun arall yn rhannu ei gred mewn daioni ac yn honni ei fod wedi gwneud mwy fyth – gan aberthu hyd yn oed rhannau o’i gorff i helpu ei gyd-ddynion. Ac felly y mae hi: brwydr rhwng dau Pangloss sy'n chwilio am ddaioni a diymhongarwch.

"Mae'n bechod nad yw Rhys Hughes yr un mor adnabyddus ag Italo Calvino. "Prin yw'r ffuglen a geir yn unrhyw le yn y byd sydd o’r un safon â gwaith Hughes. Mae wedi'i ysgrifennu a'i ddychmygu'n wych." Jeff Vandermeer

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025