Am
Mae aelodau Côr Meibion Treorci a'u gwesteion arbennig yn cyflwyno hwyl yr ŵyl i Neuadd Brangwyn Abertawe i gefnogi hosbis Tŷ Hafan i blant.
Mae'r Côr Meibion eiconig ac arbennig hwn, a sefydlwyd ym 1883, wedi cyflwyno sawl perfformiad brenhinol, yn ogystal â chwblhau dwsinau o deithiau cenedlaethol a rhyngwladol.
Wrth i ni ddechrau mis Rhagfyr, gallwch fwynhau noson o ganeuon Nadolig clasurol gyda'r holl elw'n mynd i hosbis Tŷ Hafan i blant.
Mae eich cefnogaeth yn newid bywydau. Ar hyn o bryd, mae 1 o bob 10 o deuluoedd yng Nghymru y mae angen cymorth Tŷ Hafan arnynt yn derbyn y cymorth hwnnw yn ystod bywyd a marwolaeth eu plentyn a thu hwnt i hynny. Gyda phob tocyn, gallwch greu Cymru lle nad yw unrhyw deulu'n wynebu bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.