Am
Bydd Uchelgais Grand, y prosiect creadigol sydd wedi bod yn Theatr y Grand Abertawe ers 2022, yn perfformio Straeon Abertawe, sy'n dod â deunydd o sioeau clodwiw Uchelgais Grand, Sorter a MumFighter, ynghyd â gwaith newydd gan yr awdur o Abertawe Tracy Harris.
Straeon o'r ddinas a chan y bobl. Straeon sydd wrth wraidd y ddinas ac sy'n cyfrannu at ei ffyniant. Straeon am uchelgeisiau, breuddwydion a chymunedau; straeon nad ydynt wedi'u perfformio ar ein llwyfannau cyn hyn.
AM DDIM OND RHAID CAEL TOCYN - Archebwch ymlaen llaw
(GWRANDO Â CHYMORTH)
OEDRAN: 13+* Themâu aeddfed ac iaith gref trwy'r perfformiad