Am

Ymunwch â ni am benwythnos llawn digwyddiadau i'r teulu a hwyl yr ŵyl ym Marchnad Abertawe a Marchnad Nadolig Abertawe!

Ymgollwch mewn rhaglen o adloniant byw ar ddau lwyfan bywiog – Caban y Carolwyr a Gardd y Farchnad. Dewch i gael eich swyno gan harmonïau hudolus The Bluebird Belles o'r 1950au, rhythmau rhagorol Hot Gin Swing, seiniau bywiog Eine Kleine Oompah, a mwy!

Gall y plant bach fwynhau hud a lledrith a miri mawr yng nghwmni Kelly a Debbie, a bydd paentio wynebau ac addurno cwcis yn siŵr o ddifyrru pawb!

Peidiwch â cholli eich cyfle i gwrdd â gwesteion arbennig disglair, bydd cymeriadau atyniadol o'r gorffennol ddydd Sadwrn a chreaduriaid coetirol hynod ddydd Sul.

Mae Costa Coffee yn falch o noddi Caban y Carolwyr.

Daw'r amserlen lawn cyn bo hir!