Am
Daw ‘Under Milk Wood’, drama enwog Dylan Thomas, i lwyfan Theatr Dylan Thomas ym mis Hydref.
Dechreuodd ‘Under Milk Wood’ fel drama radio cyn tyfu i fod yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Thomas a pharhau i ddifyrru pobl hyd heddiw. Bydd Theatr Dylan Thomas yn falch o ddod â’r ddrama hynod boblogaidd i’w llwyfan ym mis Hydref. Mae'r ddrama'n dilyn tref fach brysur a'i thrigolion drwy ddangos eu carwriaethau, eu cwerylau, eu breuddwydion a'u dymuniadau i gynulleidfa sy'n debyg iawn i drigolion y dref.