Am

Mae Valley Rock Voices yn gôr cyfoes llwyddiannus o gymoedd de Cymru.  Sefydlwyd VRV, fel y'i hadwaenir yn hoffus erbyn hyn, 9 mlynedd yn ôl gan y Cyfarwyddwr Cerddorol, Cerys Bevan, ac mae bellach wedi tyfu i ymhell dros 200 o gantorion.

Mae VRV a'i band tŷ 5 aelod wedi cefnogi Only Men Aloud ac yn fwyaf diweddar, Max Boyce yn ei gyngerdd i ddathlu 50 mlynedd! Mae VRV yn gôr arloesol sy'n cynhyrchu môr o sain wrth ganu'r alawon mwyaf bachog a phoblogaidd o'r degawdau diwethaf gyda grym ac asbri. Popeth o Meatloaf i Joni Mitchell, Tina Turner i Coldplay - does dim byd wedi'i wahardd!