Am
Ymunwch â chwmni arobryn Yeti Television a'r BBC am drafodaeth sy'n archwilio rhaglenni dogfen wedi'u lleoli yn Abertawe a de-orllewin Cymru.
Sgwrs sy'n archwilio sut mae rhaglenni dogfen a chynyrchiadau ffeithiol, megis Yarnbombers, City of Horses, Dance Passion Swansea a Richard Burton - Wild Genius y BBC yn cyfleu hunaniaeth cymunedau lleol. Mae Golygydd Comisiynu'r BBC ac aelodau panel sy’n gynhyrchwyr rhaglenni ffeithiol yn trafod sut mae ymdeimlad cryf o le yn llywio comisiynu, adrodd straeon a chynrychiolaeth, a pham y mae'r naratifau hyn yn bwysig yng Nghymru a'r DU.
Sesiwn holi ac ateb a gyflwynir gan Nerys Evans, Rheolwr Strategol Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.