Am

Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded gwerth chweil ar hyd promenâd Abertawe ddydd Sul, 31 Awst.

Byddwn yn dechrau o The Green Room Bar & Kitchen am 1pm a bydd adloniant cyn, yn ystod ac ar ôl y daith. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn taith gerdded gymunedol arbennig er mwyn cefnogi pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Gan ddechrau yn The Green Room Bar & Kitchen, gallwch ddewis llwybr sy'n addas i chi: Llwybr 5k - i The Secret Beach Bar & Kitchen, Brynmill. Llwybr 5 milltir – bron mor bell â The Junction Café, Blackpill.

Bydd lluniaeth am ddim i bawb sy'n cymryd rhan, ynghyd â theulu a ffrindiau, ar ôl i chi orffen. I wneud y diwrnod hyd yn oed yn fwy bythgofiadwy, gall plant (ac oedolion) fwynhau paentio wynebau a helfa drysor ddifyr ar hyd y llwybr, ac mae croeso i bawb fwynhau ein bwth hunlun 360. Dewch i gerdded gyda ni ar gyfer achos gwych - byddem yn dwlu ar eich gweld chi yno!