Am
Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe.
Bydd Abertawe'n cynnal digwyddiad cerdded elusennol i gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y gwaed a chodi arian ar gyfer gwaith ymchwil hollbwysig i'r canser hwn, y pumed mwyaf cyffredin yn y DU. Bydd Walk of Light, a gynhelir gyda'r hwyr ar 29 Mawrth ar hyd promenâd Bae Abertawe, yn dod â'r gymuned ynghyd i gefnogi Blood Cancer UK a'r rhai hynny y mae canser y gwaed wedi effeithio arnynt.
Mae'r digwyddiad hwn yn ffordd o gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y gwaed, cysylltu â phobl eraill y mae'r canser hwn wedi effeithio arnynt, a chefnogi ymchwil i achub bywydau. Golygfeydd trawiadol a phromenâd diogel Bae Abertawe yw'r lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad cynhwysol sy'n addas i deuluoedd.
Bydd y digwyddiad, sydd am gyrraedd targed o 200 o gyfranogwyr, yn un o uchafbwyntiau calendr Abertawe. Gall cyfranogwyr ddewis rhwng dau bellter, 2.5km neu 5km, gan ei wneud yn hygyrch i bawb. Mae'r llwybr yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Oherwydd y pris mynediad bach a'r cyfle i godi arian nawdd, mae Walk of Light yn gyfle i ddod ynghyd dros achos cyffredin.