Am

WEDI'I LLENWI

Ymunwch â Michael Sheen, actor a Chyfarwyddwr Artistig y Welsh National Theatre, a Martyn Joseph, canwr a chyfansoddwr caneuon gwerin, am noson o adloniant. Dyma gyfle i gael eich swyno gan ddarlleniadau o waith awduron o Gymru, clywed Martyn yn perfformio ei ganeuon ei hun, a dysgu rhagor am fywydau cyffrous y perfformwyr enwog hyn o Gymru.
 
Bydd Michael yn rhoi llais i eiriau Dylan Thomas a llenorion eraill, a bydd Martyn yn perfformio ei ganeuon gwreiddiol hiraethus.  Mae Martyn wedi cael ei gymharu â Bruce Springsteen, John Mayer, Bruce Cockburn a Dave Matthews ac mae wedi ennill bri mawr fel perfformiwr gwefreiddiol. Mae miloedd wedi dweud mai ei wylio oedd y profiad gorau o gerddoriaeth fyw iddynt ei gael erioed.
 
Bydd cyfle i fyfyrio, chwerthin a chysylltu â’r ddau artist wrth iddynt rannu llwyfan ar gyfer y gyngerdd unigryw hon yn Abertawe.

Archebwch tocynnau am ddim. TOCYNNAU AR GAEL 1 HYDREF 8PM.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025