Am
Mae’r WELSH OF THE WEST END yn ôl y Nadolig hwn!
Mae grŵp theatr gerddorol dawnus Welsh of the West End yn dychwelyd ym mis Rhagfyr gyda thaith ddisglair ar gyfer y Nadolig.
Ymunwch â nhw yn Neuadd Brangwyn Abertawe am gyngerdd heb ei hail a fydd yn cynnwys hoff glasuron y Nadolig a'r ffefrynnau o fyd theatr gerddorol.
Mae perfformiadau'r grŵp wedi'u gwylio dros 20 miliwn o weithiau ar-lein, ac maent wedi syfrdanu cynulleidfaoedd rhyngwladol drwy gyrraedd rownd gynderfynol fyw Britain's Got Talent ar ITV.
Ers hynny, maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel Neuadd Frenhinol Albert, The London Palladium a Chanolfan Mileniwm Cymru, maent wedi ymddangos ar y llwyfan fel prif berfformwyr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac wedi partneru ag Undeb Rygbi Cymru fel er mwyn darparu adloniant ar y cae cyn gemau rygbi rhyngwladol i gynulleidfa o 75,000 o bobl.
Mae'r grŵp yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.
Peidiwch â cholli'r wledd Nadoligaidd hon!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM
Hyd 150 munud
Pris £33 - £42