Am

Mae cyfres o wyrthiau'n golygu bod pêl-droedwyr Cymru wedi llwyddo, yn groes i’r disgwyl, i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed! Ond ar ôl ar i drychineb daro'r rheolwr a'i chwaraewr gorau yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth, a fydd aelodau’r tîm yn gallu dod ynghyd i lwyddo er gwaethaf pob disgwyl - ar y cae ac oddi arno..?

Mae Theatr na nÓg yn awyddus i danio dychymyg y genedl, ac ysgogi newid yn ein cymunedau. Fel cwmni sydd wedi'n gwreiddio'n ddwfn yng nghymoedd de Cymru, rydym yn creu theatr yn Gymraeg a Saesneg sy'n cysylltu, yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi pobl o bob oed ledled Cymru a thu hwnt.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025