Am

Mae Theatr na nÓg yn enwog am ddod â straeon Cymreig, llawn ysbrydoliaeth i'r llwyfan. Fel cwmni sydd wedi'n gwreiddio'n ddwfn yng nghymoedd de Cymru, rydym yn creu theatr yn Gymraeg ac yn Saesneg sy'n cysylltu, yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi pobl o bob oed ledled Cymru a thu hwnt.
 
Mae'n bleser gennym gyflwyno fersiwn gryno o ddrama Nick Davies a Brett Davies When Pelé Broke Our Hearts sy'n seiliedig ar y llyfr gan Mario Risoli. Mae cyfres o wyrthiau'n golygu bod pêl-droedwyr Cymru wedi llwyddo, yn groes i'r disgwyl, i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed! Ond ar ôl ar i drychineb daro'r rheolwr a'u chwaraewr gorau yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth, a fydd y tîm yn gallu bod yn gefn i'w gilydd i lwyddo, er gwaethaf pob disgwyl - ar y cae ac oddi arno…? Bydd hwn yn gyfle i brofi dechrau cynhyrchiad newydd a chyffrous ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Mae cyfres o wyrthiau'n golygu bod pêl-droedwyr Cymru wedi llwyddo, yn groes i’r disgwyl, i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed! Ond ar ôl ar i drychineb daro'r rheolwr a'i chwaraewr gorau yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth, a fydd aelodau’r tîm yn gallu dod ynghyd i lwyddo er gwaethaf pob disgwyl - ar y cae ac oddi arno..?

Mae Theatr na nÓg yn awyddus i danio dychymyg y genedl, ac ysgogi newid yn ein cymunedau. Fel cwmni sydd wedi'n gwreiddio'n ddwfn yng nghymoedd de Cymru, rydym yn creu theatr yn Gymraeg a Saesneg sy'n cysylltu, yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi pobl o bob oed ledled Cymru a thu hwnt.

Am ddim gyda thocyn.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025