Am
Hawlfraint llun: Universal Studios, Filmbank
Camwch i fyd o hud, cyfeillgarwch, a straeon heb eu hadrodd yr haf hwn gyda dangosiad ffilm awyr agored ysblennydd o Wicked: For Good yn Amffitheatr Abertawe.
Dewch â'ch ffrindiau, dewch â blanced a gwnewch eich hunan yn gyfforddus ar gyfer noson hudol o dan y sêr wrth i un o'r straeon mwyaf eiconig ym maes theatr gerdd barhau ar y sgrîn fawr.
Gallwch fwynhau'r dewis o fwyd a diod ffres a fydd ar gael ar y safle neu dewch â'ch picnic eich hun a mwynhewch y noson yn eich ffordd eich hun.
Y ffilm:
Mae Wicked: For Good yn parhau â stori hudolus Elphaba a Glinda, gan archwilio'r cysylltiad pwerus rhwng dwy fenyw wahanol iawn a'r dewisiadau sy'n llunio eu tynghedau.
Gyda pherfformiadau disglair, effeithiau gweledol trawiadol a cherddoriaeth fythgofiadwy, bydd y bennod ddiweddaraf hon yn dod â hyd yn oed mwy o deimlad, gwefr ac emosiwn i fyd Oz.