Am

Digwyddiad 'Wild Church' mis Hydref 2025

Dyddiad: Dydd Sadwrn 25 Hydref 2025 Amser: 11:00 – 12:30 Lleoliad: Coedwig Llanilltud Gŵyr, Parkmill, Abertawe SA3 2EQ Parcio yn Gower Inn (am ddim) Bws: Gwasanaeth 117

Ymunwch â ni am archwiliad chwareus, llawn ffydd sy'n addas i bobl o bob oedran lle byddwn yn cydbwyso ar foncyffion, casglu hadau, a chysylltu â byd natur. Gallwch fwynhau cysgod a chwpan o siocled poeth i orffen. ☕️

 

Dewch â'r canlynol: Mae croeso i chi ddod fel y mynnwch. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd. Dylid gwisgo esgidiau cerdded dwrglos, esgidiau glaw neu esgidiau nad oes ots gennych os ydynt yn mynd yn frwnt! Bydd angen dillad cynnes a chot ddwrglos.

 

Byddwch yn cwrdd â Peter Lewis a Dan Edy o dîm The Wonder of Wellbeing Gower a bydd gennych hefyd gyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddwl a meithrin cysylltiadau â nhw.

 

Y llwybrau - Bydd taith gerdded fer i ardal yng nghoedwig Llanilltud Gŵyr. Bydd y llwybr yn fwydlyd gyda chreigiau a changhennau coed.

 

Hygyrchedd - Mae'n cynnwys taith gerdded fer yn yr awyr agored trwy lwybrau mwdlyd. Anifeiliaid - Mae'n ddrwg gennym nodi nad yw cŵn yn gallu ymuno â ni ar yr achlysur hwn, fodd bynnag, mae croeso i gŵn tywys a chymorth.