Am
Dyddiad: Dydd Sul 7 Medi
Amser: 1.30pm
Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tocynnau: £12
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn cyflwyno jazz soffistigedig, egnïol gyda Will Barnes Quartet - grŵp sy'n adnabyddus am ei arddull jazz bebop cyffrous, cyfoes.
- Will Barnes – Gitâr
- Jack Gonzalez – Piano
- Clovis Phillips - Bas Dwbl
- James Batten – Drymiau
Grŵp o offerynwyr jazz profiadol iawn yw Will Barnes Quartet ac mae eu setiau a ddewiswyd yn ofalus fel arfer yn cynnwys alawon swing hamddenol bythol a chaneuon cyffrous sy'n diddanu cynulleidfaoedd. Mae galw mawr am Will bob amser, ac yn y pedwarawd hwn, mae'n archwilio ei gariad at gitarwyr fel Grant Green a Wes Montgomery. Gallwch ddisgwyl eiliadau o gyffro'n cymysgu â'r curiad hamddenol!
Mae'r tri albwm sydd wedi dylanwadu ar Will fel cerddor yn cynnwys:
- Night Train, Oscar Peterson Trio (1963)
- Jim Hall & Pat Metheny, Jim Hall and Pat Metheny (1999)
- Midnight Blue, Kenny Burrell (1963)
Mae eu sain yn ffres ac yn rhoi bywyd newydd i weithiau clasurol yn gyson, ochr yn ochr â chyfansoddiadau cofiadwy Will sy'n gadael cynulleidfaoedd yn ysu am ragor.
Archebwch eich tocynnau nawr!
Archebwch ar gyfer pob un o’r 11 sioe â thocynnau am bris untro o £165 gyda’n gostyngiad VIP amleitem - 01792 475715.
Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%