Am

Cymru, cloddio glo a chanu corawl. 

Byddwch yn barod am antur egniol a chalonogol yn Blaze of Glory! - stori ddyrchafol wedi'i osod yng Nghymoedd De Cymru yn y 1950au. Ar ôl trychineb cloddio, mae grŵp bach o lowyr yn mynd ar antur gerddorol drwy ffurfio Côr Meibion er mwyn codi calonnau - a'r to - wedi trychineb gloddio. Dan arweiniad eu Meistr Corws arwrol a chefnogaeth y merched cryf sy'n sefyll ochr yn ochr â nhw, mae'r dynion yn mynd ar antur gerddorol: yn herwgipio iodlwr, yn cymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol ar draws yr Iwerydd gyda Paul Robeson ac yn arwain y ffordd i'r Eisteddfodau a thu hwnt. 

Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o Wlad y Gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol  oresgyn adfyd. Cewch glywed alawon traddodiadol o Gymru ynghyd â synau a cappella o'r 1950au, opereta, gospel a band mawr, wrth i'n band gwrol o gerddorion lindi hopian eu ffordd at ogoniant. Ymunwch â'n dynion mewn blasers, am berfformiad i godi calon ac i godi gwên. 

Cenir yn Saesneg gyda uwchdeitlau yn Saesneg a Chymraeg 

Tua dwy awr a 25 munud gydag un egwyl