Am
Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, roedd hefyd adloniant byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, gyda mynediad am ddim i’r digwyddiad!
Ymunodd athletwyr addawol â’r athletwyr profiadol fel rhan o Uwch Gyfres Paratri Prydain. Roedd cyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan wrth nofio, beicio, rhedeg, a’r cyfan yn ardal Doc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan dîm Treiathlon Prydain mewn cydweithrediad ag UK Sport, Treiathlon y Byd, Treiathlon Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Cynhaliwyd sawl ras yn ystod y dydd, gyda’r rasys yn cael eu cynnal rhwng 9am a 5.45pm.