Am

Y Môr a Ni yw'r gwaith celf newydd a gomisiynwyd fel rhan o ailddatblygiad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. 

Mae'r gwaith, gan yr artist Jacqui Symons, yn dal hwyliau cyfnewidiol y cefnfor.

Wrth edrych yn fanwl, fe welwch gyfeiriadau cynnil at orffennol morwrol a diwydiannol Cymru, wedi eu hysbyrdoli gan gasgliadau yr amgueddfa. 

Mae'r gwaith yn gwahodd ymwelwyr i feddwl am eu perthynas nhw gyda'r môr ac yn creu gofod i arafu ac i fyfrio.