Am

Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd ar gyfer 2025!

Mae'r digwyddiad Calan Gaeaf blynyddol yng nghanol dinas Abertawe'n dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Hydref ac eleni bydd ardal sy'n addas i deuluoedd ac ardal arall i blant hŷn ac oedolion. Cynhelir digwyddiad eleni rhwng 3pm ac 8pm. Paratowch am ddigwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus, lle bydd pob math o greaduriaid i’w gweld yn y ddwy ardal. 

Mae Sgwâr Dewi Sant dychrynllyd yn berffaith i deuluoedd. Bydd yr ardal hon yn cynnwys prif lwyfan llawn gemau a cherddoriaeth, cystadleuaeth gwisg ffansi, a pherfformiadau gan ddiddanwyr proffesiynol. Ond cofiwch - bydd creaduriaid yn crwydro'r sgwâr, yn barod i ddiddanu gwesteion iau.

Ar draws y bont fygythiol mae parc Amy Dillwyn - ydych chi'n ddigon dewr i fentro yno? Bydd yr ardal hon, sy'n addas i blant hŷn ac oedolion, yn llawn creaduriaid brawychus a phethau dychrynllyd a all eich atal rhag cysgu!

Rhagor o wybodaeth yn y man!