Am

Dewch i ddysgu'r awgrymiadau a fydd yn eich helpu i wella'ch sgiliau arlunio yn ystod y cwrs haf wythnosol hwn i bobl ifanc 12-16 oed.

Ymunwch â'r tiwtor arlunio Dr Richard Monahan a fydd yn cyflwyno cymysgedd o ddulliau arsylwadol, arbrofol a dychmygol i chi eu harchwilio, gyda syniadau ychwanegol fel y gallwch barhau i weithio gartref.

Mae'r cwrs hwn yn berffaith i bobl ifanc sy'n frwd dros arlunio, sydd am ddatblygu eu hymwybyddiaeth weledol, eu sgiliau a'u techneg.

E-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.

£25 ar gyfer y cwrs llawn 4 wythnos.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i'n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy'n ceisio lloches neu'r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i'n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.