Am
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026
1:00 pm - 3:30 pm
Bydd y gweithdy ysgrifennu LHDTC+ creadigol hwn yn caniatáu i gyfranogwyr ymateb yn greadigol i bedwar gwrthrych yn yr oriel.
Oed 16+
Mae digon o ysbrydoliaeth i chi yma ar gyfer testunau ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, geiriau neu waith celf.
Bydd y sesiwn dwy awr a hanner yn archwilio hanes cwiar y pedair eitem, yn caniatáu amser i ddechrau ysgrifennu a bydd yn gorffen gydag awgrymiadau ar wella sgiliau ysgrifennu. Bydd y gweithiau a gyflwynir yn ymddangos yn ddiweddarach mewn e-lyfr am ddim.
Mae Norena Shopland yn awdur/hanesydd sy’n arbenigo mewn ymchwilio i amrywiaeth yn hanes Cymru ac ysgrifennu amdano.
Mae ei gwaith yn cynnwys Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales, y gwaith cyntaf ar gyfeiriadedd rhywiol Cymru a hanes hunaniaeth rhywedd ac A History of Women in Men’s Clothes: From Cross-Dressing to Empowerment.
Mae Norena’n ysgrifennu erthygl fisol am hanes Cymru ar gyfer Nation Cymru.
Ei llyfrau diweddaraf yw My love all Love excels: The Remarkable Life and Times of 17th-Century Poet, Katherine Philips (Parthian Books, Mehefin 2026) a Queer Wales on This Day (Calon Books, Chwefror 2027). Mae sawl stori ffuglen wedi ymddangos mewn e-gyhoeddiadau.