Am
Mae Adventure Britain yn cynnig syniadau gwych ac yn darparu gweithgareddau antur, seibiannau gweithgareddau awyr agored, gwyliau antur, penwythnosau partïon cyn priodas, digwyddiadau corfforaethol a gweithgareddau adeiladu tîm, rhaglenni gweithgareddau i ysgolion a phrofiadau gweithgareddau teuluol sy'n rhoi gwerth am arian. O'n canolfan ym Mae Abertawe gallwn gynnig amrywiaeth o benwythnosau gweithgareddau ac antur a seibiannau i ddiwallu'ch anghenion. Ni waeth beth yw'ch oed neu'ch gallu corfforol, gallwn gynnig profiad Cymreig go iawn bythgofiadwy i chi yn ein lle chwarae antur naturiol.
Yn gweithredu ar draws Abertawe, penrhyn Gŵyr a Chastell-nedd.
- Cwmni Adeiladu Tîm Cenedlaethol y Flwyddyn 2008/2009
- Busnes Bach y Flwyddyn Cymru 2008/2009
- Cwmni Twristiaeth Busnes Cenedlaethol y Flwyddyn 2011/2012
- Busnes Gwyrdd y Flwyddyn Bae Abertawe 2013/2014
Mae gweithgareddau'n cynnwys:-
Ceunanta | Cerdded Ceunentydd | Dringo | Abseilio | Ogofa | Canŵio | Caiacio | Cerdded | Saethyddiaeth | Cyfeiriannu | Arfordiro | Pledu Paent | Adeiladu Rafft | Adeiladu Tîm |
Pleidleisiwyd dros y cwmni yn 100 Cwmni Bach Gorau'r DU SMARTA
Rydym yn gwmni cyfyngedig sydd dan berchnogaeth ac a weithredir yn annibynnol. Mae gennym enw da am gyflwyno profiadau antur unwaith mewn oes am brisiau gwerth am arian. Rydym yn darparu'ch gwyliau neu'ch profiadau digwyddiadau. Ceisiwn fwyafu'ch profiad chi drwy ddefnyddio'n profiad ni. Mae gennym yr wybodaeth leol, y cysylltiadau lleol a'n hisadeiledd ein hunain i gefnogi'ch gofynion ac rydym yn cynnig bargeinion gwerth am arian. Nid ydym yn asiant i eraill nac yn berson anhysbys ar ddiwedd ffôn na fyddwch byth yn cwrdd ag ef.
Cyfleusterau
Arall
- School parties welcome
Arlwyo
- Brecwast ar gael - Select packages only.
- Bwyty - Select packages only.
- Cinio ar gael
Cyfleusterau Darparwyr
- Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
Cyfleusterau Hamdden
- Gweithgareddau awyr agored
- Pwll nofio dan do - Select packages only.
- Sawna - Select packages only.
- Ystafell Stêm - Select packages only
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Suitability
- Digwyddiadau Corfforaethol
- Partïon Batchelor
- Teithiau Ysgol
- Teuluoedd
What's included
- Bwyd wedi'i ddarparu - Select packages only
- Trafnidiaeth wedi'i ddarparu - To and from activity venues