Am
Mae'r amgueddfa'n arddangos ac yn gweithredu amrywiaeth o fysus a oedd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws de a Gorllewin Cymru yn y gorffennol.
P'un a ydych chi'n dwlu arnynt, neu'n eu casáu, mae bysus yn rhan sylweddol o'n hanes trafnidiaeth ac maent yn gyfrifol am ran bwysig o'n hanes cymdeithasol hefyd. Ar un adeg, petaech yn dymuno teithio i unrhyw le a oedd yn gysylltiedig â gwaith, ymlacio a chwarae yn ardal Bae Abertawe byddech wedi teithio ar fws, boed ar fysus South Wales Transport, United Welsh, neu un o'r sawl gweithredwr llai. Mae nifer o'r cerbydau yn ein hamgueddfa arobryn yn talu teyrnged i'r cwmnïau hynny, eu ceffylau gwaith gwych a'r bobl y tu ôl iddynt.
Mae ein casgliad yn cynrychioli cerbydau o sawl cyfnod yn ogystal â'r amrywiaeth o lifrai a wisgwyd ganddynt.
Yn ogystal â'n bysus, mae'r amgueddfa'n cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd eraill o'r gorffennol, sy'n cynnwys cerbydau amaethyddol a filwrol, beiciau modur a cherbydau brys. I gwblhau ein teyrnged i bob math o drafnidiaeth, mae gennym
fodelau traciau rheilffyrdd - yr unig gosodiad cyhoeddus yng Nghymru a chylched rasio moduron fach. Mae hefyd ardal chwarae i'n hymwelwyr ifanc ei mwynhau.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwr
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle


