Am
Am y tro, byddwn yn agor dri diwrnod yr wythnos – bob Dydd Iau, Sadwrn a Sul. Mae mynediad i’r Amgueddfa yn parhau am ddim, ond er mwyn rheoli hyn rhaid i bob ymwelydd archebu tocyn am ddim.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n adrodd hanes dynol diwydiant ac arloesedd Cymreig heddiw, a thros y 300 mlynedd diwethaf.
Drwy'r defnydd o dechnoleg ryngweithiol flaengar, mae'r amgueddfa yn gadael i chi reoli'r profiad a'ch galluogi i ymchwilio i'r arddangosiadau cymaint ag y mynnwch.
Paratowch eich hun i archwilio 100 o arddangosion clywedol sy'n cynnwys 36 o arddangosfeydd rhyngweithiol o'r radd flaenaf a rhai gwrthrychau hanesyddol mawr iawn o bob cwr o'r wlad, gan gynnwys atgynhyrchiad o locomotif ager cyntaf y byd, gwasg frics ac un o'r ychydig wagenni glo sydd wedi goroesi.
Cynhelir digwyddiadau ac arddangosfeydd llawn dychymyg drwy gydol y flwyddyn, ewch i www.amgueddfa.cymru.ac.uk/abertawe am fwy o fanylion.
Gallwch hefyd fwynhau brechdanau, cawl a theisennau ffres yn y caffi, neu ymlacio gyda choffi arbenigol.
Felly dewch i ymweld â ni er mwyn i chi ymgolli yn hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, lle mae technoleg heddiw'n rhoi'r gorffennol ar flaenau eich bysedd.
Cyfleusterau
Arall
- Trwydded i gynnal priodasau sifil
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Cyfleusterau cynadledda
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael