Am
Tywysydd achrededig sy'n arbenigo yn Dylan Thomas, Abertawe a De Cymru yw Anne Pelleschi. Gyda thros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant twristiaeth, mae Anne yn siaradwr cyhoeddus ac yn dywysydd profiadol sy'n rhannu ffeithiau â'i chynulleidfa drwy ei thechneg ddoniol o adrodd stori sy'n hawdd gwrando arni. Mae hi'n gwau'r gorffennol drwy'r presennol yn llyfn ac yn gosod materion cyfredol ochr yn ochr â materion y gorffennol.
Mae Anne yn arbenigwraig cydnabyddedig ar fywyd yr awdur Dylan Thomas ac mae ganddi wybodaeth fanwl am hanes cymdeithasol a diwylliannol Abertawe a Chymru. Mae hi wedi cwrdd â Thywysog Cymru ac wedi rhoi taith dywys bersonol iddo o fan geni Dylan Thomas. Cafodd y cyfarfod hwn ei gynnwys ar y newyddion cenedlaethol ar y teledu ac yn y wasg.
Yn 2012, enillodd Anne wobr 'Profiad Gorau i Ymwelwyr' gan Tourism Swansea Bay. Mae hi'n addasu ei theithiau tywys fel eu bod yn addas i bob oedran, gallu a diddordeb, ac mae hi'n frwdfrydig yn ei nod o greu profiad cadarnhaol sy'n aros yn y cof o'u hymweliad ag Abertawe a Chymru.
Mae hi'n cynnig teithiau cerdded, teithiau tywys â gyrrwr a theithiau coetsis drwy gydol y flwyddyn ar gyfer unigolion a grwpiau.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol - Tours are tailored around your choice of location and interests.
- Mewn tref/canol dinas - Tours are tailored around your choice of location and interests.
- Yn y wlad - Tours are tailored around your choice of location and interests.
Suitability
- Teuluoedd