Am
Mae Neuadd Brangwyn yn ganolfan boblogaidd bywyd cymdeithasol a diwylliannol yn Abertawe. Fe'i defnyddir yn aml ar gyfer priodasau, derbyniadau, seremonïau gwobrwyo, digwyddiadau a chyngherddau. Mae Neuadd Brangwyn yn un o dirnodau Abertawe.
Mae ei leoliad cyfleus yn agos iawn i draeth tywodlyd Bae Abertawe, a gellir cyrraedd canol dinas Abertawe ymhen deg munud ar gerdded ac ymhen pum munud ar y bws.
Yn y gorffennol, mae Neuadd Brangwyn wedi croesawu nifer o actau rhyfeddol, gan amrywio o Deep Purple, The Police, Queen i Kiri Te Kinawa. Mae Pavarotti wedi recordio yno, yn ogystal â Cherddorfa Ffilharmonig Llundain a Manic Street Preachers, i enwi ychydig yn unig.
Mae'r Frenhines, y Tywysog Philip a'r Tywysog Siarl wedi ymweld â Neuadd Brangwyn ynghyd â sawl aelod arall o'r teulu brenhinol, prif weinidogion, y Fam Theresa, a sêr ffilmiau megis Michael Sheen a Joan Collins. Mae llawer o enwogion chwaraeon rhyngwladol fel Ian Botham wedi cynnal ciniawau ac areithiau yn y lleoliad dros y blynyddoedd.
Mae Neuadd Brangwyn hefyd wedi cynnal digwyddiadau niferus a ddarlledwyd ar y teledu fel cynadleddau pleidiau gwleidyddol, Question Time y BBC, The Antiques Roadshow, T4 Live, a llawer o seremonïau gwobrwyo a chiniawau.
Rydym hefyd wedi cynnal sioeau blodau, ffeiriau crefftau, ffeiriau cardiau post, ffeiriau teganau, ffeiriau elusennol, seremonïau dinesig megis rhyddid y ddinas, yn ogystal â phrydau bwyd Indiaidd, dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, gornestau paffio a snwcer.
Mae Neuadd Brangwyn yn cynnig llawer o ystafelloedd ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd. Ni waeth a ydych am gynnal cynhadledd fawr, diwrnod hyfforddi, gweithgareddau meithrin ysbryd tîm neu adloniant corfforaethol, gallwn gynnig ystafelloedd amrywiol eu maint i ddiwallu eich anghenion. Mae naw ystafell ar gael, o ystafelloedd pwyllgor bach ar gyfer hyd at 16 o gynadleddwyr yn eistedd o gwmpas bwrdd, i Neuadd Brangwyn ei hun sydd â seddau arddull theatr i 1070 o bobl.
Ar ôl gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd, mae Neuadd Brangwyn yn meddu ar dechnoleg fodern ac yn sicrhau gwasanaeth unigryw o safon uchel.
Cyfleusterau
Arall
- Trwydded i gynnal priodasau sifil
Cyfleusterau Darparwyr
- Cyfleusterau cynadledda
- Lleoliad Digwyddiadau
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio (codir tâl)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael