Am
Mae taith i Ganolfan Dylan Thomas, yng nghanol dinas Abertawe, yn hanfodol i bob un sy'n dwlu ar Dylan a'i waith.
Mae'n gartref i arddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau' diolch i gyllid gwerth £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ymunwch â ni i ddysgu am fywyd a gwaith Dylan Thomas, mab hanesyddol ac eiconig Abertawe, drwy gyfryngau cymysg megis sgriniau cyffwrdd digidol, gweithgareddau ymarferol, darnau gwreiddiol wedi'u cadw a recordiadau sain o rai o weithiau enwocaf Dylan yn cael eu darllen gan rai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd.
Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul rhwng 10.00am a 4.30pm a chyda mynediad am ddim, mae'r arddangosfa'n ffordd berffaith o ymdrochi ym mywyd a chyfnod Dylan, ynghyd ag etifeddiaeth ein tref ar lan y môr.
Dilynwch linell amser bywyd Dylan, o'i blentyndod diymhongar yn yr Uplands i'w farwolaeth yn Efrog Newydd ym 1953, yn ogystal ag amrywiaeth eang o'i waith yn y cyfamser.
Ym ymweld â ni fel teulu? Rydym yn cynnal gweithgareddau yn y gwyliau ar thema gwaith Dylan bob dydd y tu hwnt i dymhorau ysgol – felly mae digon o ddigwyddiadau i gadw'ch plant bach yn brysur!
Rydym hefyd yn falch o gynnig gwasanaethau dysgu ac allgymorth, a gall ein tîm llenyddiaeth a churadu profiadol gynnig amrywiaeth o sgyrsiau a darlithoedd at bob diben, ni waeth os ydych yn dechrau dysgu am Dylan neu'n gyfarwydd â'i waith ers blynyddoedd.
O'n harddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau' i'n harddangosfa dros dro 'Efallai y byddaf am wenu', mae digon o resymau i archwilio Canolfan Dylan Thomas.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Plant
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio (codir tâl)
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol