Llun o ddyn ifanc yn reidio bwrdd syrffio melyn fel rhan o'r gweithgareddau sydd ar gael yng Nghanolfan Gweithgareddau Gŵyr.

Am

Dwy ganolfan wych yn Rhosili a Phorth Einon, wedi'u lleoli'n unigryw i archwilio'r holl antur sydd ar gael ym Mhenrhyn Gŵyr

Trwy ddarparu gweithgareddau anturus yn yr awyr agored ar draws Gŵyr a'r ardaloedd cyfagos ers dros 40 mlynedd, mae gan Ganolfannau Gweithgareddau Gŵyr yr arbenigedd i roi'r profiad gorau posib i chi pan fyddwch yn penderfynu ei bod hi'n #AmserDarganfodGŵyr

Rydym yn cynnig y cyfle i wneud ystod o weithgareddau sydd wedi'u dylunio i fod yn ddiogel, yn heriol ac yn hwyl ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae gan ein tîm addysgu a hyfforddi profiadol arbenigedd mewn gweithio gyda grwpiau o blant, pobl ifanc ac oedolion. Gellir rhoi cynnig ar ein gweithgareddau fel rhan o ymweliad preswyl neu drwy drefnu sesiynau gweithgareddau unigol. Gellir gweld manylion ein canolfannau preswyl yn https://www.dewchifaeabertawe.com/listings/gower-activity-centres-group-accommodation-yha-partner/

• Abseilio
• Adeiladu Timau
• Dringo Creigiau
• Môr-greigio
• Arfordiro
• Syrffio
• Canŵio
• Cerdded bryniau/llywio
• Cyfeiriannu
• Beicio
• Caiacio
• Cerdded Ceunentydd
• a mwy

I bob oedran, gan gynnwys ymwelwyr iau:

• Astudiaethau Glan y Môr
• Astudiaethau Coetir
• Astudiaethau Afonydd
• Celf Traeth a Chelf Coetir
• Teithiau Cerdded Tywys
• Teithiau Cerdded Antur
• Neidio o Graig i Graig
• Dringo Creigiau ac Abseilio
• Caiaco (eistedd ar ben)
• Rafftio Byrfyfyr

Pecynnau cwricwlwm hefyd ar gael gan gynnwys:

• Cwricwlwm AG – CA3 a CA4
• TGAU Cyfeiriannu/Merlota: Gweithgareddau Awyr Agored ac Anturus (Edexel)
• TGAU Cerdded Bryniau: Gweithgareddau Anturus (CBAC)
• TGAU Syrffio (CBAC)
• TGAU Dringo Creigiau (Edexel a CBAC)
• Cwricwlwm Daearyddiaeth - astudiaethau maes CA3 a CA4
• TGAU Daearyddiaeth: Astudiaethau'r Arfordir
• Antur Awyr Agored a'r Amgylchedd CA1 - CA2

Gwybodaeth ychwanegol:

• Hyfforddwyr achrededig Corff Llywodraethu Cenedlaethol
• 1 hyfforddwr ar gyfer pob 12 person
• Darperir yr holl hyfforddiant a chyfarpar
• Lleoedd am ddim i athrawon/arweinwyr grŵp
• Gweithgareddau dŵr ar gael o fis Ebrill i fis Hydref.
• Gweithgareddau ar gael yn ogystal â phecynnau cwricwlwm

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cawodydd

Cyfleusterau Hamdden

  • Cyfleusterau chwaraeon dw^r

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl

Nodweddion Darparwr

  • Arfordirol

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr

Canolfan Gweithgareddau

Gower Activity Centres, Borfa House, Port Eynon, Swansea, SA3 1NN

Ffôn: 01792 390481

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolAccredited Practitioner of  the Institute for Outdoor Learning Accredited Practitioner of the Institute for Outdoor Learning 2021
  • Rhanbarthol ac AmrywiolAwdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA)
  • Rhanbarthol ac AmrywiolMountain Training Cymru Mountain Training Cymru
  • Rhanbarthol ac AmrywiolCanŵ Cymru Canŵ Cymru
  • Rhanbarthol ac AmrywiolNational Coasteering Charter (NCC) National Coasteering Charter (NCC)
  • Rhanbarthol ac AmrywiolInstitute for Outdoor Learning Institute for Outdoor Learning

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Gwyliau CyhoeddusAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder