
Am
Mae Castell Oxwich yn adeilad rhestredig gradd I ar bentir coediog uwchben Bae Oxwich ym mhenrhyn Gŵyr yng Nghymru. Er ei fod ar safle hen gaer, dyma gastell mewn enw'n unig gan ei fod yn faenordy caerog mawr Tuduraidd a adeiladwyd ar ffurf beili.
Dyma faenordy Tuduraidd mawreddog a adeiladwyd gan dad a mab uchelgeisiol a ychwanegodd y nodweddion milwrol ffug at ddibenion dringo'n gymdeithasol, yn hytrach nag amddiffyn yr eiddo.
O’r eiliad y byddwch yn cerdded drwy’r porth mawreddog sydd wedi’i addurno ag arfbais Syr Rice Mansel, mae’n amlwg iawn mai hwn oedd cartref uchelwyr a oedd am fod yn ddylanwadol ym mlynyddoedd ffyniannus yr 16eg ganrif.