Am
Gallwch gael blas ar fod yn artist yn ein stiwdio paentio eich crochenwaith eich hun - lle nad oes terfyn i greadigrwydd! Mae hwyl yn aros i bawb o bob oedran!
Croeso i'n stiwdio paentio'ch crochenwaith eich hun ym mhentref glan môr dymunol y Mwmbwls! Ymgollwch mewn byd o greadigrwydd, lle nad oes cyfyngiadau oed - mae'n brofiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda'i gilydd.
Pan fydd y tywydd yn troi'n wlyb, mae ein stiwdio'n darparu'r ddihangfa dan do berffaith, gan sicrhau bod eich taith greadigol yn parhau, boed law neu hindda. Gall pawb, o blant bach i neiniau a theidiau, roi cynnig ar fod yn artist a chreu atgofion parhaol gyda'n hamrywiaeth gwahanol o ddarnau crochenwaith sy'n aros i gael eu trawsnewid.
P'un a ydych yn artist sydd wedi hen arfer â hyn, neu'n paentio am y tro cyntaf, bydd ein staff cyfeillgar wrth law i'ch arwain drwy'r broses a chynnig ysbrydoliaeth. Wrth i chi fynd ati i baentio’ch campwaith, rydym yn cynnig rhywfaint o luniaeth fel y gallwch gynnal eich lefelau egni.
I'r rheini y mae'n well ganddyn nhw fod yn greadigol yng nghysur eu lle eu hunain, rydym yn cynnig blychau crochenwaith sy'n berffaith i'w paentio gartref neu pan fyddwch ar eich gwyliau. Mae pob blwch yn cynnwys yr holl baentiau, brwshys ac offer angenrheidiol gan sicrhau profiad paentio diffwdan a phleserus lle bynnag yr ydych.
Cyfleusterau
Suitability
- Teuluoedd
What's included
- Offer wedi'u darparu