Down to Earth yurt

Am

Mae Down to Earth yn cynnig profiadau ac eco-anturiaethau anhygoel o'n dwy ganolfan wych ar benrhyn Gŵyr. Ar agor yn ddyddiol, drwy'r flwyddyn.

Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad yn cyflwyno anturiaethau arloesol yn yr awyr agored, rydym ni'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i bob oedran a gallu.

Yn seiliedig ar dyddynnod blaengar ac wedi'u datblygu mewn ffordd gynaliadwy, rydym yn cynnig y gweithgareddau canlynol:

Gweithgareddau antur - dringo coed, arfordiro, abseilio, dringo creigiau, caiacio.

Eco-adeiladu - gosod/creu fframio â phren, adeiladu â beliau gwair, adeiladu â deunydd naturiol, adeiladu waliau sychion a mwy...

Tyfu bwyd a choginio yn yr awyr agored - yn organig ac mor ffres â phosib!

Mae ein safle yn Murton 10 munud o gerdded o draeth Caswell drwy'r goedwig!

Mae ein holl staff wedi cael gwiriad GDG manwl, maent yn gymwys i roi cymorth cyntaf ac mae ganddynt brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau gwahanol.

Mae gennym gymarebau staff hynod uchel - 1 i 6 - i sicrhau ein bod ni'n gofalu amdanoch a'ch bod yn cael eich cefnogi.

Fel menter gymdeithasol (nid er elw), mae Down to Earth yn canolbwyntio ar gynnig profiadau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n wirioneddol ryfeddol!

Mae gennym drwydded yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur a gallwn gynnig achrediad drwy'r RhCA/Agored Cymru, os bydd diddordeb.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Caffi

Cyfleusterau Darparwr

  • Cawodydd
  • Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. partïon plu / penwythnosau stag
  • Lefel ffitrwydd ofynnol - canolradd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl

Nodweddion Darparwr

  • Croesawgar i gŵn

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Down to Earth

Canolfan Addysg

72a Manselfield Road, Murton, Swansea, SA3 3AP

Ffôn: 01792 232 439

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolAwdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA)
  • Rhanbarthol ac AmrywiolAgored Cymru Agored Cymru
  • Rhanbarthol ac AmrywiolFfederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol
  • Rhanbarthol ac AmrywiolSefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sul09:30 - 04:30
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder