Dryad Bushcraft man making fire

Am

Mae diwrnodau ac amserau agor yn amrywio - cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. 

Ydych chi erioed wedi meddwl sut byddai bywyd wedi bod cyn i drydan, y teledu neu hyd yn oed fatsis gael eu dyfeisio? Neu a ydych chi wedi ystyried y posibilrwydd o fod wedi'ch dal mewn amgylchedd anial heb y dechnoleg fodern rydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol. Allech chi oroesi?

Dysgwch sut i baratoi ar gyfer anturiaethau, adeiladu llochesi, cynnau tân heb fatsis, dod o hyd i fwyd a dŵr a llawer, llawer mwy.

Mae Dryad Bushcraft yn un o brif sefydliadau hyfforddi Goroesi yn y Gwyllt a Chrefft y Goedwig y DU, ac mae ganddo enw da sefydledig am ddiogelwch a darparu hyfforddiant o safon.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n cynnwys popeth ar gyfer dechreuwyr, hyd at ymarferwyr profiadol, a gall hefyd deilwra cynnwys y cyrsiau i'ch gofynion penodol.

Mae Dryad Bushcraft wedi ymddangos ar raglenni teledu niferus gan gynnwys "Time Team" Channel 4, "Wales in Four Seasons" y BBC a "Coast and Country" ITV Wales.

Cyfleusterau

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Map a Chyfarwyddiadau

Dryad Bushcraft

Bushcraft

Parkmill, Swansea, SA3 2EH

Ffôn: 01792 547213

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)

* Opening days and hours vary- please contact for further information.

Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder