Am
Dewch i fwynhau byd Dylan gyda thaith o gwmpas y tŷ byw hwn lle cafodd ei eni, lle bu'n ysgrifennu a lle bu'n byw am fwy na hanner ei fywyd
Dychmygwch... cymdeithasu, ciniawa a threulio noson yn nhŷ enwocaf Llenyddiaeth Cymru - y tŷ lle ganwyd un o feirdd ac awduron mwyaf nodedig yr 20fed ganrif a lle treuliodd 23 blynedd cyntaf ei fywyd a dechrau ar ei yrfa ysgrifennu.
Nawr, gallwch chi, eich teulu a'ch ffrindiau wneud hyn! Diolch i ymdrechion di-ddiwedd tîm o bobl sy'n frwdfrydig iawn dros Dylan Thomas, ei fan geni a'i gartref plentyndod, mae 5, Rhodfa Cwmdoncyn yn ardal Uplands yn Abertawe, ail ddinas Cymru, wedi'i adfer yn llawn i'w gyflwr ym 1914 pan y prynwyd ef yn dŷ newydd gan y teulu Thomas.
Chwaraeodd y tŷ hwn rôl bwysig yn llywio arddull ac allbwn Dylan Thomas, a gallwn addo y bydd rhywbeth i chi ei weld neu'i gyffwrdd a fydd yn rhoi atgofion am amser hir!
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael