Am
Mae Oriel a Bar Elysium yn cynnwys man arddangos ac 83 stiwdio i artistiaid ar draws pedwar lleoliad yng nghanol dinas Abertawe. Mae Elysium, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Diwylliant Gwobrau Dewi Sant 2023, yn hwb diwylliannol sy'n cyflwyno arddangosfeydd, cerddoriaeth fyw, bywluniadu, sesiynau crefftau, barddoniaeth, comedi a llawer mwy.
Sefydlwyd Oriel Elysium yn 2007 ac mae wedi tyfu i ddarparu 83 man creadigol ar draws pedwar lleoliad yng nghanol dinas Abertawe - gan ddarparu ar gyfer amrywiaeth eclectig o ymarferwyr gan gynnwys artistiaid celfyddyd gain weledol, ffotograffwyr, darlunwyr, awduron a llawer mwy.
Mae Elysium yn cynnal digwyddiadau rheolaidd fel cerddoriaeth fyw, barddoniaeth, comedi, ffeiriau crefft, digwyddiadau corfforaethol a phreifat, ffilmiau a mwy, ac mae bellach yn rhan o gynnig diwylliannol craidd Abertawe.
Cyfleusterau
Arall
- Café on premises
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Lleoliad Digwyddiadau
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael