Fairwood Park Golf Club golf course

Am

Yr unig gwrs golff statws pencampwriaeth PGA yn Ninas a Sir Abertawe.

Mae Fairwood Park sydd yng nghanol penrhyn Gŵyr a 15 munud yn unig o ganol Abertawe, yn gwrs golff 18 twll o safon mewn dros 150 erw o dir coedwigol. Mae'r cwrs Par 73, 6,700 o lathenni hwn wedi cael ei ddewis ddwywaith fel lleoliad ar gyfer Pencampwriaeth PGA Cymru, ac felly dyma'r unig gwrs golff yn Ninas a Sir Abertawe sy'n gallu dweud bod ganddo statws 'pencampwriaeth'.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r cwrs golff wedi cael ei drawsnewid drwy blannu dros 15,000 o goed a chreu llawer o lynnoedd. Gellir llogi bygis hefyd ac mae'n ddewis poblogaidd o ystyried mai Fairwood yw'r cwrs hwyaf a'r mwyaf gwastad yn yr ardal.

Cyfleusterau

Arall

  • Café on premises

Arlwyo

  • Bar
  • Bwyty

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cyfleusterau cynadledda
  • Toiledau

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Map a Chyfarwyddiadau

Fairwood Park Golf Club

Cwrs Golff

Blackhills Lane, Gower, Swansea, SA2 7JN

Ffôn: 01792 297849

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor

* O 8am i 6pm, 7 niwrnod yr wythnos yn yr haf
O 8am i 4pm, 7 niwrnod yr wythnos yn y gaeaf

Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder