Am
Dewch i ymdrochi yn y goedwig yn ystod sesiwn dan arweiniad yng Ngŵyr lle gallwch ymgolli yn y coed a mwynhau'r buddion y mae hyn yn eu rhoi i'ch corff a'ch meddwl, sydd wedi’u profi’n wyddonol. Mae ymdrochi yn y goedwig yn addas i bawb ac rydym yn cynnal sesiynau ar gyfer unigolion, grwpiau a sefydliadau.
Ystyr ymdrochi yn y goedwig yw defnyddio'ch synhwyrau er mwyn ymgolli yn y goedwig, o dan y canopi coed. Dechreuodd yr arfer yn wreiddiol yn Japan yn y 1980au lle defnyddiwyd yr arfer “Shinrin-yoku” er mwyn mynd i'r afael â gweithwyr yn chwythu eu plwc.
Mae gwyddoniaeth yn profi bod ymdrochi yn y goedwig yn cael effaith drawsnewidiol ar ein lles meddwl a chorfforol. O leihau straen a phryder i wella canolbwyntio a chreadigrwydd, mae ymchwil wedi dangos bod buddion amrywiol i’w cael o ganlyniad i ailgysylltu â natur.
Mae sesiwn ymdrochi yn y goedwig yn cynnwys mynd am dro myfyriol dan arweiniad ymysg y coed. Yr hyn sy'n gwneud ymdrochi yn y goedwig yn wahanol i heicio yw bod y cyflymder yn araf, dydy'r pellter ddim yn bell, a'r bwriad yw ailgysylltu â natur a'n hunain.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd