Am
Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.
Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae'r borderi blodau'n olygfa hyfryd o ddiwedd mis Mawrth tan ganol fis Hydref, a hyd yn oed yn ystod misoedd garw y gaeaf mae gan yr ardd lawer i'w chynnig, gyda hyd at 200 o blanhigion gwahanol yn eu blodau yn ystod tymor y Nadolig.
Am fod yr ardd hon wedi'i lleoli o fewn awyrgylch llonydd prif Parc Singleton, mae'n lle hamddenol i ddod i edrych neu i ennyn ysbrydoliaeth am eich gardd eich hun. Mae digon o lefydd i eistedd ac edmygu'r golygfeydd braf.
Mae'r mynediad i Erddi Botaneg Singleton am ddim.
Dim cŵn ac eithrio cŵn cymorth.
Mae grŵp Cyfeillion Gerddi Botaneg Abertawe yn cefnogi'r gerddi botaneg ac yn codi arian drwy'r siop blanhigion yn y gerddi (ar agor 10.00am - 2.00pm bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn, o fis Ebrill i fis Medi). Darganfyddwch ragor ar eu gwefan: Cyfeillion Gerddi Botaneg Abertawe(Yn agor ffenestr newydd)