Am
Paratowch i‘w mentro hi ar un o Siglenni Tarzan mwyaf y DU. Cewch wefr wrth ddisgyn yn gyflym am 6 metr. Hwyl heriol yn yr awyr agored Cymerwch yr amser i wastraffu eiliad.
Her ym Mrigau’r Coed
Taith hunandywysedig gyffrous 2-3 awr drwy ganopi'r goedwig.
Gadewch yr hyn sy'n gyfarwydd ar ôl - byddwch yn ddewr a mentrwch. Ein hysgolion raff yw eich mynedfa i fyd cudd. Stryffaglwch i fyny ymylon cewri, archwiliwch y coed a chrëwch atgofion gyda'ch llwyth.
Rydym ar dir Parc Gwledig Margam - parcdir hardd 1,000 o erwau. Mae'r parc a'r castell yn agos i gyffordd 28 yr M4. Mae'r diwrnod allan penigamp hwn 40 munud yn unig o Gaerdydd. Yn ogystal â chroesfannau ym mrig y coed a gwifrau gwib hynod gyflym, mae siglen Tarzan mwyaf Go Ape i'w chael ym Margam. Naid ffydd gyda chwymp o chwe metr a fydd yn corddi'r stumog. Os ydych yn chwilio am un o'r atyniadau awyr agored gorau yn Ne Cymru i'r teulu cyfan, does dim angen edrych ymhellach.
Hwyl heriol yn yr awyr agored Cymerwch yr amser i wastraffu eiliad.
Alla' i fynd i Go Ape? Isafswm oed - 10 oed
Isafswm uchder - 1.4m (4tr.7")
Uchafswm pwysau - 20.5 stôn (130kg)
Cyfleusterau
Arall
- Safle Picnic
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Cyfleusterau Hamdden
- Llogi beiciau
Dulliau Talu
- Derbynnir MasterCard
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Suitability
- Digwyddiadau Corfforaethol
- Teuluoedd
What to bring
- Dillad cynnes